Wythnos yma: Gwersi Byw 'Wythnos Wyddoniaeth Prydain' a 'Sul y Mamau'!
Shwmae!Dwy wers fyw Adobe Express wahanol i chi wythnos yma:👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Wythnos Wyddoniaeth Prydain' - dydd Iau (12/03/26) am 10:30yb! 👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Sul y Mamau' - dydd Gwener (14/03/26) am 10:30yb! 👉 Clicia'r botwm isod i weld yr holl wersi byw eraill sydd ar gael hyd at wyliau'r Pasg. Mae'r sesiynau am ddim ac yn addas i blant 7-11oed. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Cofia gofrestru am y sesiynau.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
Mae rhai awdurdodau yn blocio'r ddolen uchod.🤯 Croeso i ti ebostio'n ôl ac fe wna i gofrestru ar dy ran! Wela i chi 'na! |