Wythnos yma: Gwers Fyw 'Wythnos Arbed Ynni', a hyfforddiant DPP ACE Lefel 1 [AM DDIM]


Helo 'na!

Gobeithio dy fod wedi mwynhau'r penwythnos. Dyma'r cyfleoedd sydd ar gael yn rhad ac am ddim yr wythnos hon...

Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Wythnos Arbed Ynni' - dydd Mercher am 10:30yb!

Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2.

Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl!

video preview
Cofia gofrestru am y sesiwn.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
🍕🍕🍕 Yn ogystal, gall ysgolion gasglu pwyntiau er mwyn ennill parti pitsa ysgol-gyfan, waw!! 🍕🍕🍕

Ar bnawn fory (dydd Mawrth 14/01/25) mae cyfle i ti hawlio tystysgrif a bathodyn datblygiad proffesiynol ACE Lefel 1.

Mae'r cwrs rhithiol yma yn cynnwys trafodaeth ar bwysigrwydd creadigrwydd ym myd addysg a chyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol Adobe Express.

Wedi cwblhau Lefel 1 eisoes? Mae gwybodaeth ar y ddolen am sesiynau Lefel 2 hefyd - cer amdani!


Wela i chi 'na!

Meredudd

background

Subscribe to Yr Ysgol Ddigidol