Helo 'na!Gobeithio dy fod wedi mwynhau'r penwythnos. Dyma'r cyfleoedd sydd ar gael yn rhad ac am ddim yr wythnos hon...Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Diwrnod Santes Dwynwen' - dydd Iau am 10:30yb! Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Cofia gofrestru am y sesiwn.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
🍕🍕🍕 Yn ogystal, gall ysgolion gasglu pwyntiau er mwyn ennill parti pitsa ysgol-gyfan, waw!! 🍕🍕🍕
Wela i chi 'na! Meredudd |