PNAWN 'MA: Datblygiad Proffesiynol Adobe // FORY: Gwers Fyw ar yr Ail Ryfel Byd [AM DDIM]


Addysgwyr Creadigol Adobe: Lefel 1

Tystysgrif DPP a Bathodyn Digidol

Ymuna'n rhithiol gyda fi am 4:00-5:30yh pnawn 'ma ar gyfer hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ACE Lefel 1 - yn rhad ac am ddim!

Mae'r hyfforddiant yn cynnwys trafodaeth a chyflwyniad ar bwysigrwydd creadigrwydd o fewn addysg, a gweithgaredd hwylus gan ddefnyddio Adobe Express trwy Hwb.

Wedi i ti gyflwyno dy waith, cei dystysgrif DPP i'w roi yn dy ffeil Datblygiad Proffesiynol (a rhoi copi ar ddesg y Pennaeth efallai!) ynghyd â bathodyn ACE Lefel 1 i'w osod ar lofnod dy e-bost.

Cofrestra am ddim fan hyn:

Gwers Fyw: Ail Ryfel Byd

Cofia am y wers fyw 75munud ar gyfer Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop - fory am 10:30yb!

Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2.

Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl!

Yn y sesiwn yma, byddwn yn creu dau ddarn o waith digidol ar thema Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.

video preview
Cofia gofrestru am y sesiwn.​
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio gwobrau am ddim i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.​
Yn ogystal, mae gwobrau arbennig ar gael i'r "Arweinwyr Adobe" - plant sy'n dysgu eu sgiliau newydd i blant neu athrawon eraill yn yr ysgol!
Cofrestra fan hyn:

Diolch,

Meredudd

background

Subscribe to Yr Ysgol Ddigidol