Joia'r Pasg! Dyma arlwy'r hanner tymor nesa'... [AM DDIM!]


Bron â chyrraedd diwedd y tymor!

Gobeithio y gwnei di fwynhau'r gwyliau, a cofia roi llonydd i'r gliniadur! Pan fyddwn ni nôl, dyma'r cyfleoedd sydd ar gael yn rhad ac am ddim dros yr hanner tymor nesaf...

Gwersi Byw Adobe Express: Mae'r sesiynau am ddim ac yn addas i blant CA2.

Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl!

Dyma themâu'r gwersi byw:

👉 Diwrnod y Gofod (Iau 01/05/25)

👉 Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (Iau 08/05/25)

👉 Gweithgareddau Pontio (Iau 15/05/25)

👉 Diwrnod Rhifedd (Mercher 21/05/25)

👉 Wythnos Deallusrwydd Artiffisial (Iau 22/05/25)

Cofia gofrestru am y sesiynau.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
🍕🍕🍕 Yn ogystal, gall ysgolion gasglu pwyntiau er mwyn ennill parti pitsa ysgol-gyfan, waw!! 🍕🍕🍕

Cofrestra fan hyn:https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSc0jcxfYZhHq7ClUXvvUOVVBUVxAMELJVNmaOuh2cXzfooyqQ/viewform

Diolch,

Meredudd

background

Subscribe to Yr Ysgol Ddigidol