Hanner tymor cyfan o wersi byw Adobe Express, am ddim!


Pnawn da!

Croeso nôl - gobeithio dy fod wedi mwynhau'r haf, a bod dechrau'r tymor wedi mynd yn iawn!

Cofrestra nawr ar gyfer gwersi byw Adobe Express hyd at hanner tymor:

👉 Diwrnod Owain Glyndŵr - Medi 16, 17 (wythnos nesa'!)

👉 Wythnos Ailgylchu - Medi 23, 24

👉 Diwrnod Iechyd Meddwl - Hydref 7, 8

👉 Diwrnod Shwmae Su'mae - Hydref 15, 16

👉 Mis Hanes Pobl Dduon - Hydref 21, 22.

Mae'r sesiynau am ddim ac yn addas i blant 7-11oed.

Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl!

Wrth hwyluso'r sesiwn, rwyt ti hefyd yn gymwys i hawlio dy fathodyn Arweinydd ACE!

Cofia gofrestru am y sesiynau.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.

Wela i chi 'na!