Croeso 'nôl!Mae dwy wers fyw bwysig ymlaen yr wythnos hon:👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Dydd Gŵyl Dewi' - dydd Llun 03/03/25 am 10:30yb! 🏴🏴 👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Diwrnod y Llyfr' - dydd Iau 06/03/25 am 10:30yb! 📚📚 Mae'r sesiynau am ddim ac yn addas i blant CA2. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Cofia gofrestru am y sesiynau.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
🍕🍕🍕 Yn ogystal, gall ysgolion gasglu pwyntiau er mwyn ennill parti pitsa ysgol-gyfan, waw!! 🍕🍕🍕
Cystadleuaeth Creu Fideo: GŵylFfilm25 - pythefnos i fynd!Cofia am y gystadleuaeth ffilm, ar thema 'Cynefin'. Am ragor o wybodaeth, cer i: gwylffilm25.express.cymru Ar bnawn dydd Iau 20/03/25 mae cyfle i ti hawlio tystysgrif a bathodyn datblygiad proffesiynol ACE Lefel 1. Mae'r cwrs rhithiol yma yn cynnwys trafodaeth ar bwysigrwydd creadigrwydd ym myd addysg a chyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol Adobe Express. Wedi cwblhau Lefel 1 eisoes? Mae gwybodaeth ar y ddolen am sesiynau Lefel 2 hefyd - cer amdani!
Wela i chi 'na! |