Helo 'na!Ar fore dydd Mercher yma (06/03/24) am 10:30yb fydda i'n cynnal sesiwn fyw Adobe Express 75munud ar gyfer Diwrnod y Llyfr! Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr dy ddosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Cofia gofrestru am y sesiwn.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio gwobrau am ddim i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
Yn ogystal, mae gwobrau arbennig ar gael i'r "Arweinwyr Adobe" - plant sy'n dysgu eu sgiliau newydd i blant neu athrawon eraill yn yr ysgol!
Wela i chi 'na! Meredudd |