GWERS FYW AM DDIM: Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel [07/02/24]
Helo 'na!
Ar fore dydd Mercher nesa' (07/02/24) fydda i'n cynnal sesiwn fyw 75munud ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel!
Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2.
Rhowch y ffrwd fyw ar sgrîn fawr eich dosbarth, gyda'ch disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl!
Yn y sesiwn yma, byddwn yn creu dau ddarn o waith digidol ar thema Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.
Cofiwch gofrestru am y sesiwn.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio gwobrau am ddim i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
Yn ogystal, mae gwobrau arbennig ar gael i'r "Arweinwyr Adobe" - plant sy'n dysgu eu sgiliau newydd i blant neu athrawon eraill yn yr ysgol!
| Ffurflen gofrestru i athrawon |
Wela i chi 'na!
Meredudd