'FORY: Gwers Fyw 'Pêldroed yr Uwchgynghrair'. DYDD IAU: 'Calan Gaeaf' [AM DDIM!]
Wythnos fach i fynd!Mae'r gwyliau hanner-tymor ar y gorwel ac i helpu'r achos, ma' dwy wers fyw am ddim ar gael i chi wythnos yma!!👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Pêldroed yr Uwchgynghrair' - fory (dydd Mawrth 21/10/25) am 10:30yb! 👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Calan Gaeaf' - dydd Iau (23/10/25) am 10:30yb! 👉 Clicia'r botwm isod i weld yr holl wersi byw eraill sydd ar gael hyd at y Nadolig. Mae'r sesiynau am ddim ac yn addas i blant 7-11oed. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Cofia gofrestru am y sesiynau.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
Mae rhai awdurdodau yn blocio'r ddolen uchod.🤯 Croeso i ti ebostio'n ôl ac fe wna i gofrestru ar dy ran! Wela i chi 'na! |