'FORY: Gwers Fyw 'COP30' / DYDD IAU: Gwers Fyw 'Wythnos Diogelwch y Ffordd'


Shwmae!

Dyma dwy wers fyw Adobe Express am ddim wythnos yma. Does dim gwers wythnos nesa', felly beth am gofrestru am rhain, yna defnyddio dolenni'r gwersi byw i wylio'r recordiad yn ôl ar amser sy'n dy siwtio di?

👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'COP30' - fory (dydd Mawrth 18/11/25) am 10:30yb!

👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Wythnos Diogelwch y Ffordd' - dydd Iau (20/11/25) am 10:30yb!

👉 Clicia'r botwm isod i weld yr holl wersi byw eraill sydd ar gael hyd at y Nadolig.

Mae'r sesiynau am ddim ac yn addas i blant 7-11oed.

Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl!

video preview
Cofia gofrestru am y sesiynau.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.

Mae rhai awdurdodau yn blocio'r ddolen uchod.🤯 Croeso i ti ebostio'n ôl ac fe wna i gofrestru ar dy ran!

Wela i chi 'na!