Addysgwyr Creadigol Adobe: Lefel 1Tystysgrif DPP a Bathodyn DigidolYmuna'n rhithiol gyda fi am 4:00-5:30yh pnawn fory ar gyfer hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ACE Lefel 1 - yn rhad ac am ddim! Mae'r hyfforddiant yn cynnwys trafodaeth a chyflwyniad ar bwysigrwydd creadigrwydd o fewn addysg, a gweithgaredd hwylus gan ddefnyddio Adobe Express trwy Hwb. Wedi i ti gyflwyno dy waith, cei dystysgrif DPP i'w roi yn dy ffeil Datblygiad Proffesiynol (a rhoi copi ar ddesg y Pennaeth efallai!) ynghyd â bathodyn ACE Lefel 1 i'w osod ar lofnod dy e-bost. Cofrestra am ddim fan hyn:
Gwers Fyw: Diwrnod Llywelyn ein Llyw OlafCofia am y wers fyw 75munud ar gyfer Diwrnod Llywelyn ein Llyw Olaf - dydd Mercher 11/12/24 am 10:30yb! Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Cofia gofrestru am y sesiwn.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cymryd rhan.
Yn ogystal, allwch chi weithio tuag at ennill parti pitsa i'ch ysgol gyfan!!
Cofrestra fan hyn:
Diolch, Meredudd |