Helo 'na!Gobeithio dy fod wedi mwynhau'r penwythnos. Dyma'r cyfleoedd sydd ar gael yn rhad ac am ddim yr wythnos hon...
Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Cofia gofrestru am y sesiwn gan glicio ar y botwm yma.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
🍕🍕🍕 Yn ogystal, gall ysgolion gasglu pwyntiau er mwyn ennill parti pitsa ysgol-gyfan, waw!! 🍕🍕🍕
Ar bnawn dydd Mawrth (26/11/24) mae cyfle i ti hawlio tystysgrif a bathodyn datblygiad proffesiynol ACE Lefel 1. Mae'r cwrs rhithiol yma yn cynnwys trafodaeth ar bwysigrwydd creadigrwydd ym myd addysg a chyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol Adobe Express. Wedi cwblhau Lefel 1 eisoes? Mae gwybodaeth ar y ddolen am sesiynau Lefel 2 hefyd - cer amdani!
Wela i chi 'na! Meredudd |