Croeso nôl, wyt ti'n barod am Ddiwrnod y Cefnfor?


Helo 'na!

Mae'n Ddiwrnod y Cefnfor ar ddydd Mercher. Thema eleni yw gor-bysgota, felly...

👉 Cofrestra nawr am y wers fyw 75munud 'Diwrnod y Cefnfor' - dydd Mercher [4/6/25] am 10:30yb!

Mae'r sesiynau am ddim i bawb, ac yn addas i blant CA2.

Dewch i ddysgu am or-bysgota yn y cefnfor wrth greu ffeithlun a golygu fideo esbonio! ar Adobe Express.

Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl!

video preview
Cofia gofrestru am y sesiynau.
Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio tystysgrif i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau.
🍕🍕🍕 Yn ogystal, gall ysgolion gasglu pwyntiau er mwyn ennill parti pitsa ysgol-gyfan, waw!! 🍕🍕🍕

Clicia fan hyn i gofrestru:

https://adobe.ly/livelessons

Mae rhai awdurdodau yn blocio'r ddolen uchod.🤯 Croeso i ti ebostio'n ôl ac fe wna i gofrestru ar dy ran!

Wela i chi 'na!

Meredudd

background

Subscribe to Yr Ysgol Ddigidol