Arhosa!
Os wyt ti wedi ceisio trosi hen daflenni gwaith o Word, PowerPoint, Publisher ayyb i'w defnyddio yn Google Classroom, dwi'n siŵr dy fod wedi profi'r siom enfawr o weld cynnwys y daflen yn neidio o amgylch y lle, lluniau'n diflannu a ffontiau rhyfedd yn ymddangos!
Does dim angen gwneud dim o hynny.
Mae'r fideo yma yn dangos sut i drosi unrhyw ffeil i'w rannu â disgyblion ar Google Classroom - oll o fewn ychydig o funudau!
Os wyt ti wedi dilyn y sianel YouTube ers sbel, mae hwn yn ddiweddariad ar un o fideos cynta'r Ysgol Ddigidol, a dwi wedi llwyddo i symleiddio'r broses a thorri hyd y fideo yn hanner!
Gobeithio bod y fideo wedi bod o ddefnydd i ti.
Diolch am dy amser,