🤯 Beth sy'n gwneud HMS da?
Y gwir am HMS.
Helo Reader!
Ry' ni gyd wedi eistedd mewn sesiynau hyfforddiant HMS a sylweddoli'n eitha cyflym ein bod ni'n anhebygol iawn o weithredu ar y cynnwys.
Pam?
Wel, yn bersonol, 'dyw HMS ddim yn mynd i fy ysbrydoli i oni bai fod y camau gweithredu yn:
- bosib i'w gweithredu yn weddol syth
- sicr o wella profiadau'r disgyblion
- debygol o wella fy addysgu innau
- dilyn fframwaith drefnus sydd modd ei berchnogi dros amser.
Beth am HMS sgiliau digidol, yn benodol?
Yn rhy aml, mae sesiynau HMS ar sgiliau digidol yn dychryn athrawon. Mae'r syniad o dreialu gweithgaredd ddigidol estron gyda dosbarth llawn o blant yn codi ias arnom ni i gyd!
"Ond ro'n i'n meddwl mai tasgau i'r disgyblion oedd pecynnau Yr Ysgol Ddigidol?"
Ie. Oherwydd dwi'n credu'n gryf mai'r math gorau o HMS i athrawon yw'r un sydd modd ei ddefnyddio yn y dosbarth yn syth (er mwyn profi'r ddamcaniaeth), gan ddilyn fframwaith drefnus (er mwyn lleddfu nerfusrwydd) ond sydd â'r hyblygrwydd i'r athrawon gymryd perchnogaeth wrth iddynt ddod yn fwy hyderus, nes bod yr adnoddau gwreiddiol yn angof a'r syniadaeth a'r sgiliau newydd wedi eu hymgorffori.
Beth wyt ti'n feddwl?
Os wyt ti wedi cyrraedd mor bell â hyn (!), diolch yn fawr am dy amser - dwi wir yn ei werthfawrogi.
Os oes gennyt unrhyw sylwadau, cwestiynau neu'n meddwl fy mod i'n siarad rwtsh, mae croeso mawr i ti ateb y neges yma gyda dy brofiadau di o beth sy'n gwneud HMS sgiliau digidol da.
Diolch eto,