Yn y fideo yma, dwi'n sôn (yn gyflym!) am sut i ddefnyddio Adobe CCEXpress trwy Hwb er mwyn creu taflenni gwaith PDF yn hawdd ac yn gyflym.
Yn ail hanner y fideo cewch weld pa mor hawdd yw defnyddio unrhyw daflenni PDF gyda j2pdf o fewn just2easy.
Gobeithio bod y fideo o ddefnydd i ti Reader, a diolch yn fawr am dy amser,
Dw i wedi bod yn union yr un sefyllfa. Mae llwyth o adnoddau codio ar gael, ond does braidd dim ohono yn teimlo'n addas i'w ddefnyddio yn y dosbarth.
Wel, mae llawer o'r adnoddau codio sydd ar gael yn dangos sut mae adeiladu côd, heb ganolbwyntio'n ddigonol ar y pam.
Os am ddysgu sgiliau anodd, mae plant (wel, pawb mewn gwirionedd!) am wybod bod y canlyniad terfynol yn un gwerth chweil - mae anelu am rywbeth penodol yn bwysig er mwyn adeiladu hyder.
Mae'r pecyn yn cynnwys cyfres o wersi fideo sy'n tywys y disgyblion drwy 2x weithgaredd codio hwylus.
Mae'r disgyblion yn creu dwy gêm arcêd ac yn gwybod beth yw'r nod ar bob cam o'r ffordd.
Mae'r pecyn yn defnyddio j2code drwy Hwb, felly does dim angen unrhyw beth penodol - dim ond teclynnau sy'n gallu mynd ar y we.
Mae'n hollol syml: